R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd
1. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu i gynorthwyo hyrwyddo cynnyrch Cymreig i ddefnyddwyr yng Nghymru? OAQ(4)0160(NRF)
2. Lynne Neagle (Torfaen):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith beicio oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon ar dir comin yn Nhorfaen? OAQ(4)0167(NRF)
3. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth Llywodraeth Cymru i'r diwydiant cig coch yng Nghymru? OAQ(4)0164(NRF)
4. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru tuag at ddileu TB gwartheg? OAQ(4)0152(NRF)
5. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysigrwydd coedwigaeth i'r economi wledig hirdymor? OAQ(4)0161(NRF)
6. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ymdrin â chlymog Japan ? OAQ(4)0155(NRF)
7. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth Llywodraeth Cymru i Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol? OAQ(4)0154(NRF)
8. Leighton Andrews (Rhondda):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnwys cymunedau mewn ailgylchu? OAQ(4)0163(NRF)
9. David Rees (Aberafan):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar archwilio ac echdynnu nwy anghonfensiynol? OAQ(4)0166(NRF)
10. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am weithgarwch Llywodraeth Cymru i hyrwyddo'r sector bwyd? OAQ(4)0162(NRF)
11. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i gynyddu cyfraddau ailgylchu? OAQ(4)0165(NRF)
12. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo ffermwyr yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0156(NRF)
13. Elin Jones (Ceredigion): Pa fesurau y mae'r Gweinidog yn eu hystyried o fewn y Cynllun Datblygu Gwledig i gynorthwyo amaethwyr rhostir? OAQ(4)0157(NRF)W
14. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ragolygon y diwydiant coed meddal yng Nghymru? OAQ(4)0153(NRF)W
15. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gwaith atgyweirio i amddiffynfeydd arfordirol yn dilyn stormydd gaeaf 2014? OAQ(4)0159(NRF)
Gofyn i’r Gweinidog Tai ac Adfywio
1. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am y gofynion diogelwch tân ar gyfer tai amlfeddiannaeth? OAQ(4)0396(HR)
2. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i gyfyngu ar y defnydd o Sail 8, Atodlen 2 i Ddeddf Tai 1988 gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru hyd nes ei diddymu yn y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru) arfaethedig? OAQ(4)0407(HR)
3. Lynne Neagle: (Torfaen):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru a gyhoeddwyd i liniaru effaith y Dreth Ystafell Wely ar denantiaid yn Nhorfaen? OAQ(4)0410(HR)
4. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gamau sy'n cael eu cymryd i leihau nifer y cartrefi gwag yng Nghymru? OAQ(4)0398(HR)
5. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer y cartrefi llai sydd wedi'u hadeiladu yng Nghymru ers 2010? OAQ(4)0405(HR)
6. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ansawdd tai yn y sector rhentu preifat yng Nghymru? OAQ(4)0408(HR)
7. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gwasanaethau a ddarperir i denantiaid mewn ardaloedd poblog iawn? OAQ(4)0409(HR)
8. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cymru i gynyddu darpariaeth cartrefi newydd yng Nghymru? OAQ(4)0403(HR)
9. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer y caniatadau cynllunio ôl-weithredol a roddwyd yn ystod 2011-2013? OAQ(4)0399(HR)
10. Keith Davies (Llanelli):Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi pobl ddigartref? OAQ(4)0406(HR)W
11. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog amlinellu faint o aelodau o fyrddau cymdeithasau tai yng Nghymru sy'n fenywod sydd wedi eu cofrestru'n anabl? OAQ(4)0402(HR)
12. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y pŵer newydd arfaethedig i gynghorau lleol gyflawni eu dyletswydd o ran digartrefedd drwy'r sector rhentu preifat? OAQ(4)0397(HR)
13. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran adfywio canol trefi? OAQ(4)0401(HR)
14. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am weithredu cynllun Cymorth i Brynu Cymru? OAQ(4)0400(HR)
15. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun Cymorth i Brynu Cymru? OAQ(4)0404(HR)